BBC HomeExplore the BBC


Accessibility help
Text only
BBC Homepage
BBC Music


Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 

Podlediad / C2 Uchafbwyntiau’r Wythnos

C2 Uchafbwyntiau’r Wythnos

C2 Uchafbwyntiau’r Wythnos

BBC Radio Cymru

Caneuon o sesiynau newydd, newyddion cerddorol, chwaraeon, adolygiadau gigs, ffilmiau a cherddoriaeth, cyfweliadau, gwesteion arbennig a llawer mwy! Darnau gorau C2 pob wythnos gyda Magi Dodd, Glyn Wise, Huw Stephens, Lisa Gwilym, Dafydd Du, Jeni Lyn a BB Aled. Am fwy o wybodaeth, ac amodau defnydd y podlediad, ewch i http://www.bbc.co.uk/c2/

Tanysgrifiwch i'r podlediad

URL y ffrwd

RSS

Tanysgrifio gyda meddalwedd podledu

Tanysgrifio gyda darllenydd ffrydiau

Sut i danysgrifio

Os ydych chi'n dymuno derbyn penodau o'r podlediad hwn yn awtomatig, tanysgrifiwch i'r ffrwd bodledu hon. Bydd angen meddalwedd podledu neu ddarllenwr ffrwd RSS arnoch er mwyn gwneud hyn.

Copïwch a phastiwch y cyswllt o'r enw "URL y Ffrwd" i mewn i'ch meddalwedd podledu neu ddarllenwr ffrwd, neu cliciwch ar y botwm tanysgrifio un-clic perthnasol.

Mwy o gymorth gyda thanysgrifio

Y bennod ddiweddaraf

  • C2: Elain yn LA, Sgorgasms, y ffilm 'W'. Elis James, BB Aled a Bootnic

    Elain â'r newyddion diweddaraf o LA, Sgorgasms gyda Brychan a Dylan Ebenezer, Iwan Davies a Glyn Wise yn adolygu'r ffilm 'W', Elis James yn esbonio pam ei fod yn cael ei alw'n 'Elis' yng nghwmni Daniel Glyn, BB Aled â'r gosip o Lundain a Gareth Potter a Rhodri Jones yn adolygu albym ddiweddaraf Bootnic, Blasu Baw.

    Hyd: 43 munud | Maint y ffeil: 40 MB

    Lawrlwythwch bennod

Sut i lawrlwytho

Os fyddai'n well gennych beidio tanysgrifio, medrwch lawrlwytho penodau unigol y podlediad i'ch cyfrifiadur.

Er mwyn gwneud hyn, rhowch glic ar y cyswllt "lawrlwythwch y bennod" â botwm dde eich llygoden a dewis "Arbedwch y targed fel ...", "Arbedwch y cyswllt fel ...", neu ddewis tebyg.

Efallai bydd angen i ddefnyddwyr Mac ddal y botwm CTRL i lawr tra'n clicio, a dewis "Lawrlwythwch y ffeil cysylltiedig".

Dylech wedyn gael cwestiwn ynghylch lle i arbed y bennod ar eich cyfrifiadur. Mae pob pennod yn ffeil sain mp3.

Mwy o gymorth gyda lawrlwytho

Nodwch os gwelwch yn dda: yn dibynnu ar drefn eich cyfrifiadur, gall clicio botwm chwith eich llygoden ar "Lawrlwythwch y bennod" beri i'r bennod gael ei chwarae yn eich dewis chwaraewr cyfryngau, ond ni chaiff ei arbed.

Mwy o gymorth

Amodau defnydd

Mae'r Podlediadau hyn gan y BBC at eich defnydd personol anfasnachol chi yn unig.

Mae'r teitl, hawliau perchnogaeth a hawliau eiddo deallusol i'r Podlediad ac yn ei gyswllt yn parhau gyda'r BBC neu drydydd parti.

Ni chewch olygu, newid, addasu nac ychwanegu at y Podlediad mewn unrhyw ffordd.

Darperir y Podlediadau BBC hyn gan y BBC ar sail 'fel y mae' ac nid yw'r BBC yn rhoi unrhyw warrant yng nghyswllt y Podlediad BBC.

I'r graddau helaethaf posib o fewn y gyfraith ni fydd y BBC yn atebol am unrhyw golled na niwed y gall fod y byddwch yn ei ddioddef o ganlyniad i lawrlwytho neu ddefnyddio Podlediad y BBC.

Gweler y Telerau Trwydded Safonol: Podlediad yma. (Saesneg)



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Advertise with us